bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 3
Revelation 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 4 →
1
Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a’r saith seren: Gwn am dy weithredoedd; y mae gennyt enw dy fod yn fyw, ond marw ydwyt.
2
Bydd wyliadwrus, a chryfha’r pethau sydd yngweddill ac ar ddarfod amdanynt. Canys ni chefais gennyt weithredoedd cyflawn gerbron fy Nuw;
3
cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarha. Am hynny oni fyddi wyliadwrus, deuaf megis lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof arnat.
4
Ond y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis na halogasant eu dillad, a rhodiant gyda mi mewn gwyn, canys teilwng ydynt.
5
Yr hwn sy’n gorchfygu, gwisgir ef felly mewn dillad gwynion, ac ni ddileaf ei enw o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.
6
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
7
Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia ysgrifenna: Dyma a ddywed y sanctaidd, y cywir, yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo, ef sy’n agor ac ni chly neb, ac yn cloi ac nid egyr neb:
8
Gwn am dy weithredoedd; wele rhoddais o’th flaen ddrws agored na ddichon neb ei gloi; ychydig allu sydd gennyt, a chedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw.
9
Wele rhof rai o synagog Satan, o’r sawl a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod, eithr dywedyd celwydd y maent; wele gwnaf iddynt ddyfod ac ymgrymu wrth dy draed a gwybod imi dy garu di.
10
Am iti gadw gair fy amynedd i, cadwaf finnau di rhag awr y prawf sydd ar ddyfod ar yr holl fyd, i brofi’r sawl sy’n trigo ar y ddaear,
11
Yr wyf yn dyfod yn fuan; dal dy afael yn yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron.
12
Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw, ac allan nid â mwyach, ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw ac enw dinas fy Nuw, y Jerwsalem newydd sy’n disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw, a’m henw newydd innau.
13
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
14
Ac at angel yr eglwys yn Laodicea ysgrifenna: Dyma a ddywed yr Amen, y tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw:
15
Gwn am dy weithredoedd nad wyt nac oer na brwd; o na bait oer neu frwd;
16
felly, gan mai claear wyt, heb fod na brwd nac oer, yr wyf ar fedr dy chwydu allan o’m genau.
17
Am y dywedi, Cyfoethog wyf ac ymgyfoethogais ac nid oes arnaf angen dim, ac na wyddost mai tydi yw’r truan a’r gresynus a’r tlawd a’r dall a’r noeth,
18
cynghoraf di i brynu gennyf aur wedi ei buro drwy dân fel y byddych gyfoethog, a dillad gwynion fel y’th wisger ac na ddelo cywilydd dy noethni i’r golwg, ac eli i iro dy lygaid fel y gwelych.
19
Yr wyf fi ’n ceryddu ac yn disgyblu cynifer ag a garaf; bydd selog ynteu ac edifarha.
20
Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais ac agoryd y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef ac yntau gyda minnau.
21
Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac eistedd gyda’m Tad ar ei orsedd ef.
22
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22