bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 10
Revelation 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 11 →
1
A gwelais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, a chwmwl amdano, a’r enfys ar ei ben, a’i wyneb fel yr haul, a’i draed fel colofnau o dân,
2
a chanddo yn ei law lyfryn agored. A gosododd ei droed de ar y môr, a’r un aswy ar y tir,
3
a bloeddiodd â llais mawr fel llew yn rhuo. A phan floeddiodd, rhoes y saith daran eu llef hwythau.
4
A phan lefodd y saith daran yr oeddwn ar fedr ysgrifennu; a chlywais lais o’r nef yn dywedyd: Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
5
A chyfododd yr angel, a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir, ei law dde i’r nef,
6
a thyngodd yn enw’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, a greodd y nef a’r pethau ynddi, y tir a’r pethau ynddo, a’r môr a’r pethau ynddo, na byddai oedi mwyach,
7
eithr yn nyddiau llef y seithfed angel, pan fyddai ar fedr utganu, yna y deuai i ben ddirgelwch Duw yn ôl y newyddion da a fynegodd ef i’w weision y proffwydi.
8
Yna y llef, a glywais o’r nef, ymddiddanai drachefn â mi a dywedyd: Dos, cymer y llyfr sy’n agored yn llaw yr angel a saif ar y môr ac ar y tir.
9
Ac euthum at yr angel gan ofyn iddo roddi i mi ’r llyfryn. A dywed wrthyf: Cymer a bwyta ef, a chwerwa ef dy fol, ond yn dy enau bydd yn felys fel mêl.
10
Yna cymerais y llyfryn o law’r angel a bwyteais ef, ac yr oedd yn fy ngenau fel mêl o felys; a phan fwyteais ef, chwerwyd fy mol.
11
A dywedant wrthyf: Y mae’n rhaid iti drachefn broffwydo parthed pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22