bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 21
Revelation 21
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
1
A gwelais nef newydd a daear newydd, canys diflannodd y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf, a’r môr nid yw mwyach.
2
A’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch a addurnwyd i’w gŵr.
3
A chlywais lais mawr o’r orsedd yn dywedyd: Wele babell Duw gyda dynion, a phabella gyda hwynt, a hwy fyddant ei bobl, a bydd Duw ei hun gyda hwynt,
4
sych ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt, ac angau ni bydd mwyach, na galar na gwaedd na phoen ni bydd mwyach; canys diflannodd y pethau cyntaf.
5
A dywedodd yr un a eisteddai ar yr orsedd: Wele, yn newydd y gwnaf bopeth. Yna dywed: Ysgrifenna, canys y geiriau hyn, ffyddlon a chywir ydynt.
6
A dywedodd wrthyf: Daethant i ben. Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.
7
Yr hwn sy’n gorchfygu, etifedda’r pethau hyn, a b yddaf iddo’n Dduw, a bydd yntau’n fab i mi.
8
Ond am y rhai llwfr ac anffyddiog a ffiaidd a llofruddion a phuteinwyr a swyngyfareddwyr ac eilunaddolwyr a phawb celwyddog, bydd eu rhan yn y llyn yn llosgi gan dân a brwmstan, sef yw hynny, yr ail farwolaeth.
9
A daeth un o’r saith angel y sydd ganddynt y saith ffiol yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd: Tyred, dangosaf iti’r briodferch, gwraig yr Oen.
10
A dug fi ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi ’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw,
11
a gogoniant Duw ganddi; ei disgleirdeb oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iaspis yn disgleirio fel grisial;
12
a’i mur oedd fawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau yn ysgrifenedig, sef enwau deuddeg llwyth meibion Israel;
13
o du’r dwyrain tri phorth, ac o du’r gogledd tri phorth, ac o du’r de tri phorth, ac o du’r gorllewin tri phorth.
14
Ac i fur y ddinas y mae deuddeg sylfaen, ac arnynt ddeuddeg enw deuddeg apostol yr Oen.
15
Ac yr oedd gan yr un a ymddiddanai â mi fesur, corsen aur, i fesuro’r ddinas a’i phyrth a’i mur.
16
Ac y mae’r ddinas wedi ei gosod yn bedair-onglog, a’i hyd yn ogymaint â’i lled. A mesurodd y ddinas â’r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau; ei hyd a’i lled a’i huchder sydd gyfartal.
17
A mesurodd ei mur hi yn gant pedwar deg a phedwar o gufyddau, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo angel.
18
Ac yng ngwneuthuriad ei mur yr oedd iaspis, a’r ddinas sydd o aur pur cyffelyb i wydr gloyw.
19
Y mae sylfeini mur y ddinas yn addurnedig â phob rhyw faen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf iaspis, yr ail saffir, y trydydd chalcedon, y pedwerydd smaragdin,
20
y pumed sardonycs, y chweched sardion, y seithfed chrusolith, yr wythfed beryl, y nawfed topas, y degfed chrusopas, yr unfed ar ddeg huacinth, y deuddegfed amethyst.
21
A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; pob un o’r pyrth oedd o un perl. A heol y ddinas oedd o aur pur fel gwydr tryloyw.
22
A theml ni welais ynddi; canys yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ei theml hi, a’r Oen.
23
Ac nid rhaid i’r ddinas wrth yr haul na’r lleuad i dywynnu arni; canys goleuodd gogoniant Duw hi, a’i llusern yw’r Oen.
24
A rhodia’r cenhedloedd wrth ei golau hi, a dwg brenhinoedd y ddaear eu gogoniant iddi;
25
a ’i phyrth hi nis caeir y dydd, canys ni bydd nos yno;
26
a dygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi.
27
Ac nid â i mewn iddi ddim cyffredin na neb a wna ffieidd-dra na chelwydd, neb ond y sawl a ysgrifennwyd yn llyfr bywyd yr Oen.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22