bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 2
Revelation 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
1
At angel yr eglwys yn Effesus ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sy’n dal y saith seren yn ei ddeheulaw, yr hwn sy’n rhodio ynghanol y saith ganhwyllbren aur:
2
Gwn am dy weithredoedd di a’th lafur a’th amynedd, ac na elli oddef rhai drwg, ac iti brofi’r rhai a’u geilw eu hunain yn apostolion, a hwythau heb fod, ac iti eu cael yn gelwyddog;
3
ac y mae gennyt amynedd, a goddefaist o achos fy enw i ac ni flinaist.
4
Eithr y mae gennyf yn dy erbyn iti golli dy gariad cyntaf.
5
Cofia felly o b’le y cwympaist, ac edifarha a gwna’r gweithredoedd cyntaf; ac onid e, dof atat a symudaf dy ganhwyllbren o’i le, onid edifarhei.
6
Ond hyn sydd gennyt, dy fod yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai a gasâf finnau hefyd.
7
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd sydd ym mharadwys Duw.
8
Ac at angel yr eglwys yn Smyrna ysgrifenna: Dyma a ddywed y cyntaf a’r olaf, a fu farw ac a ddaeth yn fyw:
9
Gwn am dy flinfyd a’th dlodi, eithr cyfoethog ydwyt; ac am gabledd y rhai a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod amgen na synagog Satan.
10
Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele y mae’r diafol ar fedr bwrw rhai ohonoch i garchar i’ch profi, a chewch flinfyd am ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhoddaf iti goron y bywyd.
11
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: Yr hwn sy’n gorchfygu, ni chaiff niwed oddi wrth yr ail farwolaeth.
12
Ac at angel yr eglwys ym Mhergamus ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo’r cleddau deufin llym:
13
Gwn ym mh’le y trigi, lle y mae gorsedd Satan; ac yr wyt yn dal gafael yn fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i hyd yn oed yn y dyddiau y lladdwyd Antipas fy nhyst ffyddlon i yn eich plith chwi, lle y trig Satan.
14
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, — bod gennyt yna rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgai i Falac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, sef bwyta pethau a aberthwyd i eilunod a phuteinio.
15
Felly hefyd y mae gennyt tithau rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid yr un modd.
16
Edifarha gan hynny; onid e, dof ar frys a rhyfelaf gyda hwynt â chleddau fy ngenau.
17
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd yn ysgrifenedig nas edwyn neb ond a’i derbynio.
18
Ac at angel yr eglwys yn Thyatira ysgrifenna: Dyma a ddywed Mab Duw, y sydd â’i lygaid fel fflam dân a’i draed yn debyg i bres gloyw-eirias:
19
Gwn am dy weithredoedd a’th gariad a’th ffydd a’th wasanaeth a’th amynedd, a bod dy weithredoedd diwethaf yn amlach na’r rhai cyntaf.
20
Eithr y mae gennyf yn dy erbyn dy fod yn goddef y wraig Jesebel, a’i geilw ei hun yn broffwydes, ac a ddysg ac a arwain ar gyfeiliorn fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod.
21
A rhoddais iddi amser i edifarhau, ac ni fyn edifarhau am ei phuteindra.
22
Wele bwriaf hi ar wely, a’r rhai sy’n godinebu gyda hi i flinfyd mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi;
23
a’i phlant, lladdaf hwy â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai myfi yw chwiliwr arennau a chalonnau, a rhoddaf i chwi bob un yn ôl eich gweithredoedd.
24
Ond dywedaf wrthych chwi, y gweddill yn Thyatira, cynifer ag na ddaliant yr athrawiaeth hon, y sawl nad adnabuant, ys dywedant, ddyfnderau Satan: Ni fwriaf arnoch faich arall;
25
yn unig deliwch afael yn yr hyn sydd gennych hyd oni ddelwyf.
26
A’r hwn sy’n gorchfygu ac yn cadw hyd y diwedd fy ngweithredoedd i, rhoddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd —
27
bugeilia ef hwynt â gwialen haearn, fel llestri pridd y malurir hwynt —
28
megis y derbyniais innau awdurdod gan fy Nhad, a rhoddaf iddo hefyd y seren fore.
29
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22