bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 7
Revelation 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
1
Wedi hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt nac ar y ddaear nac ar y môr nac ar un pren.
2
A gwelais angel arall yn esgyn o’r dwyrain, a chanddo sêl y Duw byw, a gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt niweidio’r ddaear a’r môr,
3
gan ddywedyd: Na niweidiwch na’r ddaear na’r môr na’r coed, nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.
4
A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedwar deg a phedwar o filoedd, wedi eu selio o bob llwyth o feibion Israel:
5
O lwyth Jwda deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad deuddeng mil wedi eu selio.
6
O lwyth Aser deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Naffthali deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manase deuddeng mil wedi eu selio.
7
O lwyth Simeon deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Isachar deuddeng mil wedi eu selio.
8
O lwyth Sabulon deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin deuddeng mil wedi eu selio.
9
Wedi hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, a mentyll gwynion amdanynt, a phalmwydd yn eu dwylo.
10
A gwaeddant â llais uchel, gan ddywedyd: Eiddo ein Duw sy’n eistedd ar yr orsedd, ac eiddo’r Oen, yw’r iachawdwriaeth.
11
A safai’r holl angylion o gylch yr orsedd a’r henuriaid a’r pedwar peth byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addolasant Dduw,
12
gan ddywedyd: Amen, y mawl a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r grym sydd eiddo ein Duw yn oes oesoedd. Amen.
13
A chyfarchodd un o’r henuriaid fi a dywedyd: Y rhain a’r mentyll gwynion amdanynt, pwy ydynt, ac o b’le y daethant?
14
Dywedais innau wrtho: F’arglwydd, tydi sy’n gwybod. Dywedodd yntau wrthyf: Dyma’r rhai sy’n dyfod allan o’r blinfyd mawr, ac a olchodd eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen.
15
Oherwydd hynny y maent o flaen gorsedd Duw, a gwasnaethant ef ddydd a nos yn ei gysegr, a’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd a babella drostynt.
16
Ni newynant mwy, ac ni sychedant mwy; ni ddisgyn arnynt na’r haul na dim gwres,
17
oblegid yr Oen y sydd ynghanol yr orsedd a’u bugeilia bwynt ac a’u tywys at ffynhonnau dyfroedd bywyd; a sych Duw ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22