bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 4
Revelation 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
1
Wedi hyn edrychais, ac wele ddrws, wedi ei agor yn y nef, a’r llais cyntaf a glywais fel utgorn yn siarad â mi gan ddywedyd: Dring yma, a dangosaf i ti ’r pethau sydd raid iddynt ddigwydd wedi hyn.
2
Yn ebrwydd yr oeddwn yn yr ysbryd; ac wele gosodasid gorsedd yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd,
3
a’r hwn a eisteddai yn gyffelyb yr olwg arno i faen iaspis a sardion, ac enfys o gylch yr orsedd, yn gyffelyb yr olwg arni i smaragdin.
4
Ac o gylch yr orsedd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y gorseddau bedwar henuriad ar hugain yn eistedd wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion, ac ar eu pennau goronau aur.
5
Ac o’r orsedd daw allan fellt a lleisiau a tharanau, a saith fflamdorch dân yn llosgi o flaen yr orsedd, y rhai yw saith ysbryd Duw;
6
ac o flaen yr orsedd megis môr gwydr cyffelyb i risial; ac ynghanol yr orsedd ac o gylch yr orsedd bedwar peth byw llawn llygaid flaen ac ôl.
7
A’r peth byw cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail beth byw yn debyg i lo, a’r trydydd peth byw a chanddo’i wyneb fel wyneb dyn, a’r pedwerydd peth byw yn debyg i eryr ar ei adain.
8
A’r pedwar peth byw, pob un ohonynt â chwech adain yr un, llawn llygaid ydynt oddi amgylch ac oddi mewn; ac ni pheidiant na dydd na nos â dywedyd: Sanct, sanct, sanct, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd ac y sydd ac a ddaw.
9
A phan rydd y pethau byw ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd,
10
syrth y pedwar henuriad ar hugain o flaen yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, ac addolant yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau gerbron yr orsedd, gan ddywedyd:
11
Teilwng wyt, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, canys ti a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys di yr oeddynt ac y crewyd hwynt.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22