bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 17
Revelation 17
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 18 →
1
A daeth un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, ac ymddiddanodd â mi gan ddywedyd: Tyrd yma, dangosaf iti’r ddedfryd ar y butain fawr sy’n eistedd ar ddyfroedd lawer,
2
yr hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac y meddwodd trigolion y ddaear ar win ei phuteindra.
3
A dug fi yn yr ysbryd i anialwch. A gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad, yn enwau cabledd drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn.
4
A’r wraig oedd wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a’i goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn ffieidd-derau ac aflan bethau ei phuteindra,
5
ac ar ei thalcen enw yn ysgrifenedig, dirgelwch, “Babilon fawr, mam puteiniaid a ffieidd-derau’r ddaear.”
6
A gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu. Ac o’i gweled, rhyfeddais â rhyfeddod mawr.
7
A dywedodd yr angel wrthyf: Paham y rhyfeddaist? Dywedaf fi wrthyt ddirgelwch y wraig a’i bwystfil, ei chludydd hi, a chanddo’r saith ben a’r deg corn.
8
Y bwystfil a welaist, bu ac nid yw, ac y mae ar godi o’r pwll, ac ar y ffordd i ddistryw. A rhyfedda trigolion y ddaear, y sawl nad ysgrifennwyd eu henw ar lyfr y bywyd er seiliad y byd, o weled y bwystfil, iddo fod ac nad yw a’i fod ar ddyfod.
9
Dyna’r ystyr sydd â synnwyr iddi. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle’r eistedd y wraig.
10
Ac y mae saith brenin; cwympodd pump, erys un, ni ddaeth y llall eto, a phan ddêl, rhaid yw iddo aros ychydig.
11
A’r bwystfil, a fu ac nad yw, wythfed yw yntau, ac y mae o’r saith, ac ar ei ffordd i ddistryw.
12
A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai na dderbyniasant eto frenhiniaeth, eithr awdurdod fel brenhinoedd am un awr a dderbyniant gyda’r bwystfil.
13
Y mae’r rhain yn unfryd, a rhoddant eu gallu a’u hawdurdod i’r bwystfil.
14
Rhyfela’r rhain â’r Oen, a gorchfyga’r Oen hwynt, canys Arglwydd arglwyddi yw a Brenin brenhinoedd, a chydag ef hefyd y rhai galwedig ac etholedig a ffyddlon.
15
A dywed wrthyf: Y dyfroedd a welaist, lle’r eistedd y butain, pobloedd a thyrfaoedd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd.
16
A’r deg corn a welaist, a’r bwystfil, hwy a gasânt y butain a’i gwneuthur yn ddiffaith a noeth, a bwytânt ei chnawd hi, a’i llosgi â thân;
17
oblegid rhoddes Duw yn eu calonnau wneuthur ei fwriad ef, a bod yn unfryd, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil hyd oni chyflawner geiriau Duw.
18
A’r wraig a welaist yw’r ddinas fawr sydd ganddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22