bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 9
Revelation 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 10 →
1
Ac utganodd y pumed angel; yna gwelais seren wedi syrthio o’r nef i’r ddaear, a rhoddwyd iddo allwedd pwll Annwn.
2
Ac agorodd ef bwll Annwn, ac esgynnodd mwg o’r pwll fel mwg ffwrnais fawr, a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pwll.
3
Ac o’r mwg daeth allan i’r ddaear locustiaid, a rhoddwyd iddynt allu fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear allu.
4
Ac archwyd iddynt na niweidient na gwellt y ddaear na dim gwyrddlas nac un goeden, eithr yn unig y bobl nad oes ganddynt sêl Duw ar eu talcennau.
5
A rhoddwyd arnynt nid eu lladd, eithr eu harteithio bum mis; a’u hartaith oedd fel artaith ysgorpion pan fratho ddyn.
6
Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth ac nis cânt er dim, a deisyfant farw, a ffy marwolaeth oddi wrthynt.
7
Ac o ran ymddangosiad tebyg oedd y locustiaid i feirch parod i ryfel, ac ar eu pennau megis coronau tebyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion,
8
a chanddynt wallt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod,
9
a chanddynt lurigau fel llurigau haearn, a sŵn eu hadenydd f el sŵn cerbydau meirch lawer yn carlamu i ryfel.
10
Ac y mae ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis.
11
Y mae ganddynt yn frenin arnynt angel Annwn; ei enw yn Hebraeg yw Abadon, ac yn y Roeg gelwir ef Apoluon.
12
Aeth y gwae cyntaf heibio; wele daw eto ddau wae ar ôl hyn.
13
Ac utganodd y chweched angel; yna clywais lais o bedwar corn yr allor aur gerbron Duw,
14
yn dywedyd wrth y chweched angel a chanddo’r utgorn: Gollwng y pedwar angel sy’n rhwym wrth yr afon fawr, Ewffrates.
15
A gollyngwyd y pedwar angel a baratoesid erbyn yr awr, y dydd, y mis, y flwyddyn, i ladd y traean o ddynion.
16
A nifer lluoedd y gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau; clywais eu nifer hwynt.
17
Ac fel hyn y gwelais yn y weledigaeth y meirch a’r sawl a eisteddai arnynt, — yr oedd ganddynt lurigau o liw tân a huacinth a brwmstan; a phennau’r meirch fel pennau llewod, ac o’u safnau daw allan dân a mwg a brwmstan.
18
Gan y tri phla hyn y lladdwyd y traean o ddynion, gan y tân a’r mwg a’r brwmstan sy’n dyfod allan o’u safnau hwynt.
19
Canys y mae gallu’r meirch yn eu safn ac yn eu cynffonnau, a’u cynffonnau sydd debyg i seirff, a chanddynt bennau, ac â’r rheini y gwnânt niwed.
20
A’r gweddill o ddynion, nas lladdwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylo fel ag i beidio ag addoli ’r demoniaid a ’r delwau aur ac arian a phres a cherrig a choed, y rhai na allant na gweled na chlywed na cherdded;
21
nid edifarhasant chwaith am eu llofruddiaethau na’u swyngyfareddau na’u godineb na’u lladradau.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22