bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 22
Revelation 22
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
1
A dangosodd imi afon o ddwfr bywyd, ddisglair fel grisial, yn dyfod allan o orsedd Duw a’r Oen.
2
Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren bywyd yn dwyn deuddeg ffrwyth, yn rhoddi ei ffrwyth bob mis, a dail y pren oedd er iachâd y cenhedloedd.
3
Ac ni bydd dim melltith mwyach. A bydd gorsedd Duw a’r Oen ynddi, a gwasnaetha ei weision ef;
4
a gwelant ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau.
5
Ac ni bydd nos mwyach, ac nid rhaid iddynt wrth olau lamp na golau haul, canys goleua’r Arglwydd Dduw iddynt, a theyrnasant yn oes oesoedd.
6
A dywedodd wrthyf: Dyma’r geiriau ffyddlon a chywir, ac anfonodd Arglwydd Dduw ysbrydoedd y proffwydi ei angel i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder.
7
Ac wele yr wyf yn dyfod ar frys. Gwyn ei fyd y neb sy’n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.
8
A myfi Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i addoli wrth draed yr angel a’u dangosai hwynt imi.
9
A dywed wrthyf: Gwylia, paid! cyd-was ydwyf â thi ac â’th frodyr y proffwydi ac â’r rhai sy’n cadw geiriau’r llyfr hwn; addola Dduw.
10
A dywed wrthyf: Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn; canys y mae’r amser yn agos.
11
Yr anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto, a’r aflan, aflaneiddier ef eto, a’r cyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a’r sanctaidd, sancteiddier ef eto.
12
Wele yr wyf yn dyfod ar frys, a’m tâl gyda mi, i roddi i bob un fel y bo ei waith.
13
Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y cyntaf a’r diwethaf, y dechrau a’r diwedd.
14
Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu mentyll, fel y byddo hawl ganddynt ar bren y bywyd, ac yr elont i mewn drwy’r pyrth i’r ddinas.
15
Oddi allan y mae’r cŵn a’r swyngyfareddwyr a’r puteinwyr a’r llofruddion a’r eilunaddolwyr a phob un sy’n caru ac yn gwneuthur twyll.
16
Myfi, Iesu, anfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn er mwyn yr eglwysi. Myfi yw gwreiddyn a hiliogaeth Dafydd, y seren ddisglair fore.
17
A dywed yr ysbryd a’r briodferch: Tyred. A dyweded y neb a glyw: Tyred. A deued y sychedig, cymered y neb a ewyllysio ddwfr bywyd yn rhad.
18
Tystiolaethaf i bob un a glyw eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: Os chwanega neb atynt, chwanega Duw iddo yntau y plâu sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
19
Ac os tyn neb oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, tyn Duw ei ran ef o bren y bywyd ac o’r ddinas sanctaidd, pethau sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
20
Dywed yr hwn sy’n tystiolaethu’r pethau hyn: Ie, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen, tyred, Arglwydd Iesu.
21
Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda phawb.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22