bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 18
Revelation 18
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
1
Wedi hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod mawr, a goleuwyd y ddaear gan ei ddisgleirdeb.
2
A gwaeddodd â llais nerthol gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid ac yn warchodfa pob ysbryd aflan ac yn warchodfa pob aderyn aflan ac atgas;
3
canys drwy win llid ei phuteindra hi y cwympodd yr holl genhedloedd, a phuteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac ymgyfoethogodd marsiandwyr y ddaear ar rwysg ei maswedd hi.
4
A chlywais lef arall o’r nef yn dywedyd: Deuwch, fy mhobl, allan ohoni, fel na byddoch gyfrannog o’i phechodau ac na dderbynioch o’i phlâu;
5
oblegid pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef, a chofiodd Duw ei hanghyfiawnderau hi.
6
Telwch iddi megis y talodd hithau, a dybiwch yn ddwbl yn ôl ei gweithredoedd; yn y cwpan a gymysgodd, cymysgwch iddi yn ddwbl;
7
cymaint ag yr ymogoneddodd ac yr ymfoethusodd, cymaint â hynny rhoddwch iddi o boenedigaeth a galar. Canys dywed yn ei chalon: Eisteddaf yn frenhines, a gweddw nid wyf, a galar nis gwelaf byth.
8
Oherwydd hyn mewn un dydd daw ei phlâu, marwolaeth a galar a newyn, a llosgir hi’n ulw â thân; oblegid nerthol yw’r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi.
9
Ac wyla a chwynfanna brenhinoedd y ddaear amdani hi, y rhai a buteiniodd gyda hi ac ymfoethuso, pan welont fwg ei llosgi hi;
10
safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, Babilon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth dy farn.
11
Ac wyla a galara marsiandwyr y ddaear amdani, oherwydd ni phrŷn neb mwy eu nwyddau hwynt,
12
nwyddau aur ac arian a charreg werthfawr a pherlau a lliain main a phorffor a sidan ac ysgarlad, pob pren thwmïon a phob llestr ifori a phob llestr o goed gwerthfawrocaf ac o bres ac o haearn ac o farmor,
13
a sinamon ac amomon, a pherlysiau a myrr a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith a gwartheg a defaid, meirch a cherbydau a dynion yn gyrff ac eneidiau.
14
A chiliodd dy ffrwyth, chwennych-beth dy enaid, oddi wrthyt, a diflannodd pob rhyw fraster a gwychder oddi wrthyt, ac ni cheir mohonynt byth mwy.
15
Marsiandwyr y pethau hyn, a ymgyfoethogodd drwyddi, safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, dan wylo a galaru
16
a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, a wisgwyd â lliain main a phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherl,
17
canys difodwyd cymaint cyfoeth mewn un awr. A phob meistr llong a phob un a hwylio i ryw fan, a morwyr a’r sawl sy’n gweithio ar y môr, safasant o hirbell
18
a gweiddi wrth weled mwg ei llosgi a dywedyd: Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr?
19
A bwriasant lwch ar eu pennau, a gweiddi dan wylo a galaru, gan ddywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai sydd â llongau ar y môr drwy ei drudfawr bethau hi, oherwydd mewn un awr y gwnaethpwyd hi’n ddiffaith.
20
Ymlawenha o’i herwydd, dydi nef a’r saint a’r apostolion a’r proffwydi, canys barnodd Duw eich condemniad chwi arni hi.
21
A chododd rhyw angel cryf faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr, gan ddywedyd: Felly gyda rhuthr y bwrir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
22
A sŵn telynorion a chantorion a phibyddion ac utganwyr nis clywir mwyach o’th fewn, a chrefftwr o unrhyw grefft nis ceir mwyach o’th fewn, a sŵn maen melin nis clywir ynot mwy,
23
a golau lamp nis gwelir ynot mwy, a llais priodfab a phriodferch nis clywir ynot mwyach, canys mawrion y ddaear oedd dy farsiandwyr, ac â’th swyngyfaredd y twyllwyd yr holl genhedloedd,
24
ac ynddi hi y cafwyd gwaed proffwydi a saint a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22