bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 11
Genesis 11
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 12 →
1
Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau.
2
Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia ac yn setlo yno.
3
Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi eu tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.)
4
“Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.”
5
A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu.
6
Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau.
7
Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.”
8
Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas.
9
Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd i gyd.
10
Dyma hanes teulu Shem: Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)
11
Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
12
Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.
13
Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14
Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.
15
Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
16
Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.
17
Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
18
Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni.
19
Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.
20
Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni.
21
Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
22
Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni.
23
Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill.
24
Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni.
25
Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill.
26
Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab — Abram, Nachor a Haran.
27
Dyma hanes teulu Tera: Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot.
28
Pan fuodd Haran farw, yn Ur yn Babilonia lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw.
29
Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca.)
30
Roedd Sarai yn methu cael plant.
31
Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, hefyd Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond dyma nhw'n cyrraedd Haran ac yn setlo yno.
32
Dyna lle buodd Tera farw, yn 205 oed.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50