bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 12
Genesis 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 13 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti.
2
Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.
3
Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
4
Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.)
5
Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi eu cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno
6
dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More oedd yn lle addoli yn Sichem (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
7
Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” A cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.
8
Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD.
9
Wedyn teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de.
10
Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno.
11
Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn.
12
Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di.
13
Dywed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.”
14
Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn.
15
Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm.
16
Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a morynion, a chamelod iddo.
17
Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas.
18
Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi?
19
Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!”
20
Rhoddodd y Pharo orchymyn i'w filwyr daflu Abram, a'i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o'r wlad.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50