bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 49
Genesis 49
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 50 →
1
Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.
2
“Dewch yma i wrando, feibion Jacob; gwrandwch ar Israel, eich tad.
3
Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni — yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.
4
Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr — fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a'i lygru trwy dreisio fy ngwraig — gorwedd ar glustogau dy dad!
5
Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.
6
Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth — dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl. Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynion fel rhai'n gwneud ychen yn gloff am hwyl.
7
Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy; am ddigio a bod mor greulon. Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw ar hyd a lled Israel!
8
Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion. Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.
9
Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben. Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew, a does neb yn meiddio aflonyddu arno.
10
Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda. Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion nes daw pobl i dalu teyrnged iddo. Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.
11
Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a'i asen ifanc wrth y winwydden orau. Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin a'i fantell yng ngwaed y grawnwin.
12
Mae ei lygaid yn gochion gan win, a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.
13
Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr. Bydd yn hafan ddiogel i longau. Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.
14
Mae Issachar fel asyn cryf yn gorwedd dan bwysau ei baciau.
15
Gwelodd le da i orffwys a bod y wlad yno yn hyfryd. Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn a chael ei hun yn gaethwas.
16
Bydd Dan yn rheoli ei bobl fel un o lwythau Israel.
17
Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd — fel gwiber ar y llwybr yn brathu troed y ceffyl a gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.
18
Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!
19
Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad, ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.
20
Bydd bwyd cyfoethog gan Asher. Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.
21
Mae Nafftali fel ewig yn rhedeg yn rhydd, sy'n cael llydnod hardd.
22
Mae Joseff yn gangen ffrwythlon — cangen ffrwythlon wrth ffynnon, a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.
23
Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno, yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.
24
Ond daliai ei fwa'n llonydd ac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim. Roedd Un Cryf Jacob gydag e — y Bugail, Craig Israel.
25
Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di; y Duw sy'n rheoli popeth. Bydd e'n dy fendithio di gyda'r bendithion o'r awyr uchod, a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod, gyda bendithion y fron a'r groth.
26
Mae'r bendithion gafodd dy dad yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi. Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff — ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
27
Mae Benjamin fel blaidd rheibus, yn rhwygo ei ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”
28
Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.
29
Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.
30
Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu.
31
Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi eu claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi eu claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea.
32
Cafodd y darn tir a'r ogof sydd ynddo ei brynu gan yr Hethiaid.”
33
Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50