bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 35
Genesis 35
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 36 →
1
Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.”
2
Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân.
3
Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.”
4
Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,
5
a dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.
6
Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan.
7
Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.
8
A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.
9
A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram).
10
Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel.
11
Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl — ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd — yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
12
Ti sydd i gael y wlad rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”
13
Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.
14
Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.
15
Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel.
16
Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi — ac roedd yr enedigaeth yn galed.
17
Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”
18
A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin.
19
Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef, Bethlehem).
20
Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw — Cofeb Bedd Rachel.
21
Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder.
22
Tra roedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth. Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:
23
Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
24
Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
25
Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
26
Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher. Dyma'r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram.
27
Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr.
28
Roedd Isaac yn 180 oed
29
pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd yr un ffordd â'i hynafiaid. A dyma'i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50