bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 16
Genesis 16
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 17 →
1
Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft.
2
A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y caf i blant trwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho.
3
Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.
4
Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar roedd hi'n disgwyl babi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n feichiog dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres.
5
A dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai fy mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy sydd ar fai!”
6
Ond atebodd Abram, “Dy forwyn di ydy hi. Gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.
7
Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr.
8
“Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble rwyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.”
9
Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.”
10
Wedyn dwedodd, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di, am fod cymaint ohonyn nhw.”
11
Dyma'r angel yn dweud wrthi: “Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab. Rwyt i roi'r enw Ishmael iddo, am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi ei ddiodde.
12
Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt. Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e. Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.”
13
Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef “y Duw sy'n edrych arna i.”) “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai.
14
Dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi (sef y ffynnon sydd rhwng Cadesh a Bered.)
15
Cafodd Hagar ei babi — mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael.
16
(Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50