bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 40
Genesis 40
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 41 →
1
Beth amser wedyn, dyma brif-wetar a pen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2
Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog,
3
a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu.
4
Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir.
5
Un noson dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd — prif-wetar a pen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
6
Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth.
7
Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam ydych chi'n edrych mor ddigalon?”
8
A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n gallu esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”
9
Felly dyma'r prif-wetar yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd, “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden.
10
Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni.
11
Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.”
12
Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen y cynrychioli tri diwrnod.
13
Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-wetar.
14
Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma.
15
Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y dwnsiwn yma.”
16
Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Ro'n i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen.
17
Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi eu pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.”
18
A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod.
19
Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”
20
Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-wetar a'r pen-pobydd allan o'r carchar.
21
Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-wetar, a dechreuodd weini ar y Pharo eto.
22
Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud.
23
Ond anghofiodd y prif-wetar yn llwyr am Joseff.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50