bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 39
Genesis 39
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 40 →
1
Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw.
2
Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft.
3
Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo.
4
Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal.
5
Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir.
6
Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond y bwyd roedd yn ei fwyta. Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus.
7
Roedd gwraig Potiffar yn ffansïo Joseff, ac meddai wrtho, “Tyrd i'r gwely hefo fi.”
8
Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi'n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i.
9
Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e'n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?”
10
Er ei bod hi'n gofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi.
11
Ond un diwrnod, pan aeth e i'r tŷ i wneud ei waith, a neb arall yno,
12
dyma hi'n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei got allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan.
13
Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei got
14
dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian.
15
Pan glywodd fi'n gweiddi a sgrechian gadawodd ei got wrth fy ymyl a dianc.”
16
Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre.
17
Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i,
18
ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe'n gadael ei got wrth fy ymyl a dianc.”
19
Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut oedd Joseff wedi ei thrin hi, roedd e'n gynddeiriog.
20
Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd.
21
Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi.
22
Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno.
23
Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50