bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 8
Genesis 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 9 →
1
Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr.
2
Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio.
3
Dechreuodd y dŵr fynd i lawr.
4
Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5
Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.
6
Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest
7
ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear.
8
Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld os oedd y dŵr wedi mynd.
9
Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch.
10
Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto.
11
Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd.
12
Arhosodd am wythnos arall ac anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.
13
Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd ar do'r arch a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu.
14
Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych.
15
A dyma Duw yn dweud wrth Noa,
16
“Dos allan o'r arch, ti a dy deulu.
17
Tyrd â phopeth allan — yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall — dw i eisiau iddyn nhw gael llawer iawn o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.”
18
Felly dyma Noa a'i wraig, a'i feibion a'u gwragedd nhw, yn mynd allan o'r arch.
19
A dyma'r anifeiliaid i gyd, a'r ymlusgiaid, a'r adar yn dod allan yn eu grwpiau.
20
A dyma Noa'n codi allor i'r ARGLWYDD ac yn aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel aberth i'w losgi.
21
Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.
22
Tra mae'r byd yn bod, bydd amser i blannu a chasglu'r cynhaeaf; bydd tywydd oer a thywydd poeth, haf a gaeaf, nos a dydd.”
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50