bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 15
Genesis 15
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 16 →
1
Rywbryd wedyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.”
2
Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i!”
3
Ac aeth yn ei flaen i ddweud, “Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly bydd caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni yn etifeddu'r cwbl!”
4
Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”
5
A dyma'r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di — yn gwbl amhosib i'w cyfri.”
6
Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.
7
Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.”
8
Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, ARGLWYDD, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?”
9
Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma — pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed — a hefyd turtur a cholomen ifanc.”
10
Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner.
11
Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.
12
Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto.
13
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
14
Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo.
15
(Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.)
16
Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”
17
Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng darnau'r anifeiliaid.
18
Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di — y tir i gyd o Wadi'r Aifft i afon fawr Ewffrates.
19
Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid,
20
Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid,
21
Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50