bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 7
Genesis 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 8 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Noa, “Dos i mewn i'r arch gyda dy deulu. Ti ydy'r unig un sy'n gwneud beth dw i eisiau.
2
Dos â saith pâr o bob anifail sy'n iawn i'w fwyta a'i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr.
3
Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i'r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear.
4
Wythnos i heddiw dw i'n mynd i wneud iddi lawio. Bydd hi'n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i'n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi ei greu oddi ar wyneb y ddaear.”
5
Dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
6
Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi'r ddaear.
7
Aeth Noa a'i wraig a'i feibion a'u gwragedd nhw i mewn i'r arch i ddianc rhag y llifogydd.
8
Dyma'r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i'w bwyta a'u haberthu, a'r lleill hefyd), a'r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill,
9
yn dod at Noa i'r arch bob yn bâr — gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa.
10
Wythnos union wedyn dyma'r llifogydd yn dod ac yn boddi'r ddaear.
11
Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o'r ail fis, byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol, ac agorodd llifddorau'r awyr.
12
Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod.
13
Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw.
14
Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid, gwyllt a dof, ymlusgiaid, adar a phryfed — popeth oedd yn gallu hedfan.
15
Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau —
16
gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn.
17
Dyma'r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i'r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr.
18
Roedd y dŵr yn codi'n uwch ac yn uwch, a'r arch yn nofio ar yr wyneb.
19
Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o'r golwg.
20
Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na'r mynyddoedd uchaf
21
Cafodd popeth byw ei foddi — adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy'n heidio ar y ddaear, a phob person byw.
22
Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw.
23
Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd — pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â'r cwbl. Dim ond Noa a'r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl.
24
Wnaeth y dŵr ddim dechrau gostwng am 150 diwrnod.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50