bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 20
Genesis 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 21 →
1
Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn symud o gwmpas ardal Gerar
2
dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo ei hun.
3
Ond dyma Duw yn siarad gydag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.”
4
Ar y pryd doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog?
5
Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Ro'n i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.”
6
A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn i. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi.
7
Felly, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr. Mae e'n broffwyd. Bydd e'n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti'n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”
8
Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw ei swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
9
Wedyn dyma Abimelech yn galw am Abraham a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam rwyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.”
10
A gofynnodd i Abraham, “Beth roeddet ti'n feddwl roeddet ti'n ei wneud?”
11
A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n siŵr o'm lladd i er mwyn cael fy ngwraig.
12
A beth bynnag, mae'n berffaith wir ei bod hi'n chwaer i mi. Mae gynnon ni'r un tad, ond dim yr un fam. Ond dyma fi'n ei phriodi hi.
13
Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dywedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo gwneud rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni'n frawd a chwaer.’”
14
Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd.
15
Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.”
16
A dwedodd wrth Sara, “Dw i'n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‛frawd‛ di. Dw i'n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o'i le.”
17
Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a'i wraig a'r merched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw'n gallu cael plant eto.
18
(Roedd yr ARGLWYDD wedi stopio'r merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50