bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 9
Genesis 9
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 10 →
1
Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear.
2
Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw.
3
Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen.
4
Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).
5
Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.
6
Mae rhywun sy'n lladd person arall yn haeddu cael ei ladd ei hun, am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth yn ddelw ohono'i hun.
7
Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”
8
A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion,
9
“Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,
10
a hefyd gyda pob creadur byw — adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch.
11
Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear.
12
A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth:
13
Dw i'n rhoi fy mwa yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda'r ddaear.
14
Pan fydd cymylau yn yr awyr, ag enfys i'w gweld yn y cymylau,
15
bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio bywyd i gyd byth eto.
16
Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.”
17
A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”
18
Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.)
19
Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.
20
Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan.
21
Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell.
22
Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr.
23
Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw yn edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.
24
Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi ei wneud,
25
ac meddai, “Melltith ar Canaan! bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”
26
Wedyn dwedodd Noa, “Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem! Bydd Canaan yn gaethwas iddo.
27
Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth, a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem. A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”
28
Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw.
29
Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50