bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 19
Genesis 19
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 20 →
1
Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'u blaenau nhw.
2
“Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan ar y sgwâr drwy'r nos.”
3
Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres oedd wedi ei wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta.
4
Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac amgylchynu'r tŷ — dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas.
5
A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.”
6
Ond dyma Lot yn mynd allan at y dynion, ac yn cau'r drws tu ôl iddo.
7
“Dw i'n pledio arnoch chi, ffrindiau, plîs peidiwch gwneud peth mor ddrwg.
8
Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi. Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma — maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.”
9
Ond dyma'r dynion yn ei ateb, “Dos o'r ffordd! Un o'r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i'n barnu ni? Cei di hi'n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw'n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri'r drws i lawr.
10
Ond dyma'r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a'i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws.
11
A dyma nhw'n gwneud i'r dynion oedd y tu allan gael eu taro'n ddall — pob un ohonyn nhw, o'r ifancaf i'r hynaf. Roedden nhw'n methu dod o hyd i'r drws.
12
Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau eraill yma? — meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma,
13
achos dŷn ni'n mynd i ddinistrio'r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno'n ofnadwy am y lle, ac mae'r ARGLWYDD wedi ein hanfon ni i'w ddinistrio.”
14
Felly dyma Lot yn mynd i siarad â'r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai cael sbort oedd e.
15
Ben bore wedyn gyda'r wawr dyma'r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a'r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau'n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!”
16
Ond roedd yn llusgo'i draed, felly dyma'r dynion yn gafael yn Lot a'i wraig a'i ferched, a mynd â nhw allan o'r ddinas. Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.
17
Ar ôl mynd â nhw allan dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a peidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.”
18
Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr.
19
Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd.
20
Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.”
21
“Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna.
22
Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar.
23
Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio.
24
A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.
25
Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion.
26
A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.
27
Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
28
Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais.
29
Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.
30
Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof.
31
Dwedodd y ferch hynaf wrth yr ifancaf, “Mae dad yn mynd yn hen, a does yna run dyn yn agos i'r lle yma i roi plant i ni.
32
Tyrd, gad i ni wneud i dad feddwi ar win, a chysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
33
Felly'r noson honno dyma nhw'n rhoi gwin i'w tad a gwneud iddo feddwi. A dyma'r hynaf yn mynd at ei thad a chael rhyw gydag e. Ond roedd yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
34
Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
35
Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond eto, roedd Lot yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
36
A dyna sut y cafodd y ddwy ferch blant o'u tad.
37
Cafodd y ferch hynaf fab a'i alw yn Moab. Ohono fe y daeth y Moabiaid.
38
Cafodd yr ifancaf fab hefyd, a'i alw yn Ben-ammi. Ac ohono fe y daeth yr Ammoniaid.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50