bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 18
Genesis 18
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 19 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell.
2
Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau.
3
“Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Ga i'r fraint o'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig?
4
Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma.
5
Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n fraint i mi eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”
6
Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara”
7
Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys.
8
Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi ei rostio a'i osod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra roedden nhw'n bwyta.
9
“Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau.
10
A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd.
11
(Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.)
12
Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd Sara'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.”
13
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’
14
Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.”
15
Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”
16
Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd.
17
A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham?
18
Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo.
19
Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”
20
Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn!
21
Dw i am fynd i lawr i weld os ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”
22
Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra roedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
23
Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti?
24
Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn. Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna?
25
Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth — lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?”
26
A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”
27
Felly dyma Abraham yn dweud, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr, a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb,
28
Beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.”
29
A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.”
30
Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”
31
“Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.”
32
A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”
33
Ar ôl iddo orffen siarad gydag Abraham dyma'r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50