bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 28
Genesis 28
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 29 →
1
Felly galwodd Isaac am Jacob a'i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan.
2
Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram. Cei briodi unrhyw un o ferched Laban, brawd dy fam.
3
Boed i'r Duw sy'n rheoli popeth dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti. Byddan nhw'n grŵp mawr o bobloedd.
4
Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion. Byddi'n cymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma'r tir roddodd Duw i Abraham.”
5
Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram, at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead).
6
Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan,
7
a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a'i fam a mynd i Padan-aram.
8
Sylweddolodd Esau fod ei dad Isaac ddim yn hoffi'r gwragedd Canaaneaidd oedd ganddo fe.
9
Felly dyma Esau yn mynd at Ishmael (mab Abraham) a phriodi ei ferch Machalath, chwaer Nebaioth.
10
Yn y cyfamser roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran.
11
Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a'u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr yno i gysgu.
12
Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau yn codi'r holl ffordd o'r ddaear i'r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau,
13
a'r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy'r ARGLWYDD — Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad” meddai. “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma lle rwyt ti'n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion.
14
Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad — gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion.
15
Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i'n dy amddiffyn di ble bynnag ei di, ac yn dod â ti'n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo i ti.”
16
Dyma Jacob yn deffro. “Mae'n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.”
17
Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i'r nefoedd!”
18
Felly dyma Jacob yn codi'n gynnar. Cymerodd y garreg oedd wedi bod wrth ei ben, a'i gosod fel colofn, a thywallt olew drosti.
19
Galwodd y lle yn Bethel (Lws oedd enw'r dre o'r blaen.)
20
Wedyn dyma Jacob yn gwneud addewid: “O Dduw, os byddi di gyda mi, yn fy amddiffyn i ar fy nhaith ac yn rhoi bwyd a dillad i mi
21
nes i mi gyrraedd yn ôl adre'n saff, ti, yr ARGLWYDD, fydd fy Nuw i.
22
Bydd y garreg dw i wedi ei gosod yma yn nodi lle rwyt ti'n byw. A dw i hefyd yn addo rhoi un rhan o ddeg o bopeth yn ôl i ti.”
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50