bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 46
Genesis 46
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 47 →
1
Felly dyma Jacob yn cychwyn ar ei daith, a mynd â phopeth oedd ganddo gydag e. Daeth i Beersheba a chyflwyno aberthau i Dduw ei dad Isaac.
2
Yn ystod y nos dyma Jacob yn cael gweledigaeth. “Jacob, Jacob” meddai Duw wrtho. Ac atebodd Jacob, “Ie? dyma fi.”
3
Ac meddai Duw, “Fi ydy Duw — Duw dy dad. Paid bod ag ofn mynd i lawr i'r Aifft. Bydda i'n dy wneud di'n genedl fawr yno.
4
Dw i'n mynd gyda ti i'r Aifft, a bydda i'n dod â ti yn ôl eto. Bydd Joseff gyda ti pan fyddi di farw.”
5
Yna aeth Jacob yn ei flaen o Beersheba. Dyma feibion Jacob yn rhoi eu tad, a'u gwragedd a'u plant yn y wagenni roedd y Pharo wedi eu hanfon iddyn nhw.
6
A dyma nhw'n mynd â'i hanifeiliaid gyda nhw, a'r eiddo roedden nhw wedi ei gasglu pan oedden nhw'n byw yng ngwlad Canaan. Dyma Jacob a'i deulu i gyd yn cyrraedd gwlad yr Aifft:
7
ei feibion a'i wyrion, ei ferched a'i wyresau. Aeth â nhw i gyd gydag e.
8
Dyma enwau'r Israeliaid aeth i lawr i'r Aifft, sef Jacob a'i deulu: Reuben (mab hynaf Jacob).
9
Meibion Reuben: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi.
10
Meibion Simeon: Iemwel, Iamin, Ohad, Iachin, Sochar, a Saul (oedd yn fab i wraig o Canaan).
11
Meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
12
Meibion Jwda: Er, Onan, Shela, Perets a Serach (ond roedd Er ac Onan wedi marw yng ngwlad Canaan). Ac roedd gan Perets ddau fab: Hesron a Chamŵl.
13
Meibion Issachar: Tola, Pwa, Job a Shimron.
14
Meibion Sabulon: Sered, Elon a Iachle-el.
15
Dyna'r meibion gafodd Lea i Jacob yn Padan-aram. Ac roedd wedi cael un ferch hefyd, sef Dina. Felly roedd 33 ohonyn nhw i gyd.
16
Meibion Gad: Siffion, Haggi, Shwni, Etsbon, Eri, Arodi ac Areli.
17
Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, Bereia, a'u chwaer Serach. Ac roedd gan Bereia ddau fab: Heber a Malciel.
18
Dyna'r meibion gafodd Silpa (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Lea). Roedd 16 i gyd.
19
Meibion Rachel gwraig Jacob oedd Joseff a Benjamin.
20
Cafodd Joseff ddau fab yn yr Aifft: Manasse ac Effraim (Asnath, merch Potiffera offeiriad Heliopolis oedd eu mam.)
21
Meibion Benjamin: Bela, Becher, Ashbel, Gera, Naaman, Echi, Rosh, Mwppîm, Chwppîm ac Ard.
22
Dyma'r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob.
23
Meibion Dan: y Chwshiaid.
24
Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ieser a Shilem.
25
Dyma'r meibion gafodd Bilha (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Rachel). Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha.
26
Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yma ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.)
27
Gyda'r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft.
28
Dyma Jacob yn anfon Jwda o'i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw'n cyrraedd ardal Gosen.
29
Cafodd Joseff ei gerbyd yn barod, a mynd yno i gyfarfod ei dad. Pan ddaeth at ei dad dyma fe'n ei gofleidio'n dynn, a bu'n crïo ar ei ysgwydd am hir.
30
“Dw i'n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti'n dal yn fyw.”
31
Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a teulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan.
32
Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi'n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a'ch bod chi wedi dod â'ch preiddiau a'ch anifeiliaid i gyd gyda chi.
33
Os bydd y Pharo eisiau eich gweld chi, ac yn gofyn ‘Beth ydy'ch gwaith chi?’
34
dwedwch wrtho, ‘Mae dy weision wedi bod yn cadw anifeiliaid ar hyd eu bywydau. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.’ Dwedwch hyn er mwyn i chi gael symud i fyw i ardal Gosen. Mae bugeiliaid yn tabŵ i'r Eifftiaid.”
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 47 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50