bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Genesis 33
Genesis 33
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 34 →
1
Edrychodd Jacob a gweld Esau yn dod yn y pellter gyda phedwar cant o ddynion. Felly dyma fe'n rhannu'r plant rhwng Lea, Rachel a'r ddwy forwyn.
2
Rhoddodd y ddwy forwyn a'u plant ar y blaen, wedyn Lea a'i phlant hi, a Rachel a Joseff yn olaf.
3
Aeth Jacob ei hun o'u blaenau nhw i gyd. Ymgrymodd yn isel saith gwaith wrth iddo agosáu at ei frawd.
4
Ond rhedodd Esau ato a'i gofleidio'n dynn a'i gusanu. Roedd y ddau ohonyn nhw'n crïo.
5
Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.”
6
Dyma'r morynion yn camu ymlaen gyda'u plant, ac yn ymgrymu.
7
Wedyn daeth Lea ymlaen gyda'i phlant hi, ac ymgrymu. Ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
8
“Beth oedd dy fwriad di yn anfon yr anifeiliaid yna i gyd ata i?” meddai Esau. Atebodd Jacob, “Er mwyn i'm meistr fy nerbyn i.”
9
“Mae gen i fwy na digon, fy mrawd,” meddai Esau. “Cadw beth sydd piau ti.”
10
“Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw — rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi.
11
Plîs derbyn y rhodd gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno dyma Esau yn ei dderbyn.
12
Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.”
13
Ond atebodd Jacob, “Mae'r plant yn ifanc, fel y gweli, syr. Ac mae'n rhaid i mi edrych ar ôl yr anifeiliaid sy'n magu rhai bach. Os byddan nhw'n cael eu gyrru'n rhy galed, hyd yn oed am ddiwrnod, byddan nhw i gyd yn marw.
14
Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di — mor gyflym ac y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.”
15
“Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.”
16
Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw.
17
Ond aeth Jacob i'r cyfeiriad arall, i Swccoth. Dyma fe'n adeiladu tŷ iddo'i hun yno, a chytiau i'w anifeiliaid gysgodi. Dyna pam y galwodd y lle yn Swccoth.
18
Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre.
19
Wedyn prynodd y tir ble roedd wedi gwersylla gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian.
20
Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50