bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 10
Proverbs 10
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 11 →
1
Diarhebion Solomon: Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist.
2
Dydy ennill ffortiwn trwy dwyll o ddim lles, ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol.
3
Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu, Ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau.
4
Mae diogi yn arwain i dlodi, ond gwaith caled yn ennill cyfoeth.
5
Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall, ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.
6
Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.
7
Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn, ond bydd enw'r drwg yn pydru.
8
Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor, ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio.
9
Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder, Ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo.
10
Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt; ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch.
11
Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.
12
Mae casineb yn codi twrw, ond mae cariad yn cuddio pob bai.
13
Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth, ond gwialen sydd ei angen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin.
14
Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth; ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos.
15
Mae holl eiddo'r cyfoethog fel caer ddiogel; ond tlodi'r tlawd yn ddinistr.
16
Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd; ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg.
17
Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd, ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn.
18
Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo, a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl.
19
Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun; mae'r person call yn brathu ei dafod.
20
Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr, ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim.
21
Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl, ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin.
22
Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd, dydy ymdrech dynol yn ychwanegu dim ato.
23
Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau, ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall.
24
Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw; ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau.
25
Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio, Ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn.
26
Mae anfon rhywun diog ar neges, fel yfed finegr, neu gael mwg yn eich llygaid.
27
Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi, ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau.
28
Gall y cyfiawn edrych ymlaen at lawenydd, ond does gan bobl ddrwg ddim gobaith.
29
Mae'r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn, ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio.
30
Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud; ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir.
31
Mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn siarad yn gall, ond bydd y rhai sy'n twyllo yn cael eu tewi.
32
Mae'r cyfiawn yn gwybod beth sy'n iawn i'w ddweud; ond mae pobl ddrwg yn twyllo.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31