bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 31
Proverbs 31
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
1
Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam:
2
O fy mab! O blentyn annwyl fy nghroth! Y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw!
3
Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched, a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4
O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin, ac arweinwyr ddim ysu am gwrw,
5
rhag iddyn nhw yfed ag anghofio'r deddfau, a sathru ar hawliau'r tlodion.
6
Rhowch ddiod feddwol i'r rhai sy'n marw a gwin i'r un sy'n diodde'n chwerw.
7
Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi, a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion.
8
Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais, ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.
9
Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn, a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd.
10
Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda? Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11
Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr, ac ar ei ennill bob amser.
12
Mae hi'n dda iddo bob amser, a byth yn gwneud drwg.
13
Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arall ac yn mwynhau gweu a gwnïo.
14
Mae hi fel fflyd o longau masnach yn cario bwyd o wledydd pell.
15
Mae hi'n codi yn yr oriau mân, i baratoi bwyd i'w theulu, a rhoi gwaith i'w morynion.
16
Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae, a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo.
17
Mae hi'n bwrw iddi'n frwd, ac yn gweithio'n galed.
18
Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo; dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.
19
Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo, a'i bysedd yn trin y gwlân.
20
Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion; ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.
21
Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira, am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
22
Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely, a dillad o liain main drud.
23
Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas, ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
24
Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu, a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
25
Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol, ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
26
Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser, ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
27
Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd, a dydy hi byth yn segur.
28
Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,
29
“Mae yna lawer o ferched da i'w cael, ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.”
30
Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol.
31
Rhowch glod iddi am beth mae wedi ei gyflawni, a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31