bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 4
Proverbs 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
1
Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi. Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth.
2
Dw i'n dysgu beth sy'n dda, felly peidiwch troi cefn ar beth dw i'n ddweud.
3
Roeddwn i'n blentyn ar un adeg, yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam.
4
Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i, “Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud; Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da.
5
Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn; paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud.
6
Paid troi cefn ar ddoethineb — bydd hi'n dy warchod di; os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di.
7
Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall! Petai'n costio popeth sydd gen ti — mynna ddeall.
8
Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di; cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti.
9
Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben; coron fydd yn dy anrhydeddu di.”
10
Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud, a byddi di'n cael byw yn hir.
11
Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth; ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn.
12
Byddi'n cerdded yn dy flaen yn hyderus; byddi'n rhedeg heb faglu o gwbl.
13
Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael. Cadw'r cwbl yn saff — mae'n rhoi bywyd i ti!
14
Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg; paid mynd yr un ffordd â nhw.
15
Cadw draw! Paid mynd yn agos! Tro rownd a mynd i'r cyfeiriad arall!
16
Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg. Maen nhw'n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun.
17
Drygioni ydy'r bara sy'n eu cadw nhw'n fyw, A thrais ydy'r gwin maen nhw'n ei yfed!
18
Mae llwybr y rhai sy'n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae'n ganol dydd.
19
Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll; dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw.
20
Fy mab, gwrando ar beth dw i'n ddweud; gwrando'n astud ar fy ngeiriau.
21
Paid colli golwg arnyn nhw; cadw nhw'n agos at dy galon.
22
Maen nhw'n rhoi bywyd i'r un sy'n eu cael, a iechyd i'r corff cyfan.
23
Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall, achos dyna ffynhonnell dy fywyd.
24
Paid dweud celwydd; paid dweud pethau i dwyllo pobl.
25
Edrych yn syth o dy flaen, cadw dy olwg ar ble wyt ti'n mynd.
26
Gwylia'r ffordd rwyt ti'n mynd, a byddi'n gwneud y peth iawn.
27
Paid crwydro i'r dde na'r chwith; cadw draw oddi wrth beth sy'n ddrwg.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31