bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 12
Proverbs 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
1
Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth; ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl!
2
Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD, ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo.
3
Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd, ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn.
4
Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn.
5
Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda, ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus.
6
Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd, ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw.
7
Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu, ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn.
8
Mae person deallus yn cael enw da; ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu.
9
Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd.
10
Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon!
11
Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser.
12
Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni; ond gwreiddiau y cyfiawn sy'n rhoi cnwd.
13
Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw, ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn dianc rhag trafferthion.
14
Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud; ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud.
15
Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau; ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor.
16
Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau.
17
Mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond tyst celwyddog yn twyllo.
18
Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu.
19
Mae geiriau gwir yn aros bob amser, ond celwydd yn para ond am ennyd.
20
Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwyn i wneud drwg; ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd.
21
Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael dim niwed, ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion.
22
Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd, ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio.
23
Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod, ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens.
24
Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr; bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision.
25
Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.
26
Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind, ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.
27
Does gan rywun diog byth helfa i'w rostio, ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr.
28
Mae byw yn iawn yn arwain i fywyd, ond ffordd arall yn arwain i farwolaeth.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31