bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 9
Proverbs 9
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 10 →
1
Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ; ac mae wedi naddu saith colofn iddo.
2
Mae hi wedi paratoi gwledd, cymysgu'r gwin, a gosod y bwrdd.
3
Mae hi wedi anfon ei morynion allan i alw ar bobl drwy'r dre.
4
Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion!
5
Dewch i fwyta gyda mi, ac yfed y gwin dw i wedi ei gymysgu.
6
Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw; dechreuwch gerdded ffordd gall.”
7
Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a cei lond ceg! Cerydda rhywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin.
8
Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di; ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
9
Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach; dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
10
Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.
11
Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir; byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.
12
Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti; ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.
13
Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn; mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
14
Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ, neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.
15
Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibio ac yn meindio eu busnes eu hunain.
16
Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion!
17
Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys; a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”
18
Ond dŷn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna, a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd!
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31