bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 23
Proverbs 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
1
Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr, gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn;
2
dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd.
3
Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion, mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
4
Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian; bydd yn ddigon call i ymatal.
5
Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd! Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
6
Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd; paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion.
7
Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta! Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,” ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn.
8
Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi ei fwyta, ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
9
Paid dweud gormod wrth ffŵl, fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.
10
Paid symud yr hen ffiniau, a dwyn tir oddi ar yr amddifad;
11
mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf, a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.
12
Penderfyna dy fod eisiau dysgu a gwrando ar eiriau doeth.
13
Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn; dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e.
14
Defnyddia'r wialen a byddi'n achub ei fywyd.
15
Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth, bydda i'n hapus iawn.
16
Bydda i wrth fy modd yn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn.
17
Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu — bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser.
18
Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
19
Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth; penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
20
Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed, ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd.
21
Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd; fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22
Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd; a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
23
Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng, doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24
Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn bydd ei dad mor hapus; mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.
25
Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau; gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
26
Dw i eisiau dy sylw di, fy mab; gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
27
Mae putain fel pwll dwfn; a gwraig anfoesol fel pydew cul.
28
Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr; ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
29
Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus? Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg? Pwy sy'n cael damweiniau diangen? Pwy sydd â llygaid cochion?
30
Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân, ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd.
31
Paid llygadu'r gwin coch yna sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr ac yn mynd i lawr mor dda.
32
Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd; bydd fel brathiad gwiber.
33
Byddi'n gweld pethau rhyfedd, a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân.
34
Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr, neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.
35
“Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd; Ces fy nghuro, ond dw i'n cofio dim am y peth. Pryd dw i'n mynd i sobri? — dw i angen diod arall.”
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31