bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 22
Proverbs 22
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 23 →
1
Mae enw da yn well na chyfoeth mawr, a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.
2
Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD wnaeth greu y ddau ohonyn nhw.
3
Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
4
Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr ARGLWYDD yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5
Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo; ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw.
6
Dysga blentyn y ffordd orau i fyw; a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn.
7
Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr.
8
Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion, a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri.
9
Bydd person hael yn cael ei fendithio am rannu ei fwyd gyda'r tlawd.
10
Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio, bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio.
11
Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig, bydd yn ffrindiau gyda'r brenin.
12
Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir; ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud.
13
Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna! Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.”
14
Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn; mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo.
15
Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc, bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e.
16
Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd, neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!
17
Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud; a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti.
18
Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot ti ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.
19
Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw — ie, ti — er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD.
20
Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr — “Y Tri Deg Cyngor Doeth”,
21
i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn, a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di.
22
Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd; na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.
23
Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw, ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw.
24
Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis, na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt,
25
rhag i ti hefyd droi felly, a methu dianc.
26
Paid bod yn rhy barod i gytuno i dalu dyledion rhywun arall;
27
Os na fyddi di'n gallu talu byddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely!
28
Paid symud yr hen ffiniau gafodd eu gosod gan dy hynafiaid.
29
Pan weli di rywun sy'n fedrus yn ei waith — bydd hwnnw'n gwasanaethu brenhinoedd, nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31