bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 27
Proverbs 27
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 28 →
1
Paid brolio am beth wnei di yfory, ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod.
2
Gad i rywun arall dy ganmol di, paid ti â brolio dy hun.
3
Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod, ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.
4
Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu, ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.
5
Mae cerydd gonest yn well na peidio dangos cariad.
6
Mae'n well cael eich brifo gan ffrind, na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu.
7
Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl, ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys.
8
Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartre fel aderyn wedi gadael ei nyth.
9
Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.
10
Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu, a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion. Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.
11
Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen.
12
Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
13
Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol.
14
Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.
15
Mae gwraig gecrus yr un fath â diwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop;
16
mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu, neu ddal olew yn y llaw.
17
Fel haearn yn hogi haearn mae un person yn hogi meddwl rhywun arall.
18
Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sy'n bwyta ei ffrwyth, a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu.
19
Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr, mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon.
20
Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon, a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.
21
Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.
22
Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda pestl mewn mortar ond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.
23
Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn, a gofala am y geifr;
24
achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth, a dydy coron ddim yn aros bob amser.
25
Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto, ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu,
26
bydd yr ŵyn yn rhoi dillad i ti a'r bychod geifr yn talu am y tir.
27
A bydd digon o laeth geifr i ti fwydo dy deulu, a chadw dy forynion.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31