bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 8
Proverbs 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
1
Mae doethineb yn galw, a deall yn codi ei llais.
2
Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref, wrth ymyl y croesffyrdd,
3
ac wrth ymyl giatiau'r ddinas. Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa,
4
“Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl! Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan.
5
Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall; chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.
6
Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud; dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi.
7
Dw i bob amser yn dweud y gwir; mae'n gas gen i gelwydd.
8
Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn, does dim twyll, dim celwydd.
9
Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall, ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.
10
Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian; ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.”
11
Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr; does dim byd tebyg iddi.
12
“Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb; fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl.
13
Mae parchu'r ARGLWYDD yn golygu casáu'r drwg. Dw i'n casáu balchder snobyddlyd, pob ymddygiad drwg a thwyll.
14
Fi sy'n rhoi cyngor doeth, fi ydy'r ffordd orau a fi sy'n rhoi cryfder.
15
Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu, ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.
16
Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli, a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.
17
Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i, ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael.
18
Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl, cyfoeth sy'n para, a thegwch.
19
Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth, a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau.
20
Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg.
21
Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu; ac yn llenwi eu trysordai nhw.
22
Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni i cyn iddo wneud dim byd arall.
23
Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl, ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.
24
Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i, a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.
25
Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle, a doedd y bryniau ddim yn bodoli.
26
Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna, na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.
27
Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le; a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.
28
Pan roddodd y cymylau yn yr awyr, a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.
29
Pan osododd ffiniau i'r môr, fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo; a pan osododd sylfeini'r ddaear.
30
Roeddwn i yno fel crefftwr, yn rhoi pleser pur iddo bob dydd, wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.
31
Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear, ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.
32
Nawr, blant, gwrandwch arna i; Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus.
33
Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth; peidiwch troi cefn arno.
34
Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith, maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd, yn disgwyl i mi ddod allan.
35
Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd; mae'r ARGLWYDD yn dda atyn nhw.
36
Ond mae'r rhai sy'n pasio heibio i mi yn peryglu eu hunain; mae pawb sy'n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.”
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31