bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 21
Proverbs 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
1
Mae penderfyniadau'r brenin fel sianel ddŵr yn llaw'r ARGLWYDD; mae'n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau.
2
Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.
3
Mae cael rhywun yn gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn well gan yr ARGLWYDD nag aberthau.
4
Mae snobyddiaeth a balchder — sy'n nodweddu pobl ddrwg — yn bechod.
5
Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ond yn arwain i dlodi.
6
Mae ffortiwn wedi ei ennill drwy ddweud celwydd fel tarth sy'n diflannu — magl i farwolaeth.
7
Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais, maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn.
8
Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd, ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn.
9
Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10
Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg, ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill.
11
Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers; ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando.
12
Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg; bydd yn dod â dinistr arnyn nhw.
13
Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd, bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.
14
Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid, a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.
15
Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn, ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.
16
Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawn yn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.
17
Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd; dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.
18
Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn; a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.
19
Mae'n well byw mewn tir anial na gorfod diodde gwraig gecrus a blin.
20
Mae'r person doeth yn cynilo, ond mae person ffôl yn gwario'r cwbl sydd ganddo.
21
Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedig yn cael bywyd, llwyddiant ac enw da.
22
Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerus a bwrw i lawr y gaer oedden nhw'n teimlo'n saff ynddi.
23
Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafod yn cadw ei hun allan o drafferthion.
24
Mae'r person balch, haerllug — yr un sy'n gwawdio pobl eraill — yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd.
25
Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd, am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo.
26
Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg, tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid.
27
Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg, yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg.
28
Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi; y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola.
29
Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen; ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd.
30
Does dim doethineb na deall na chyngor sy'n gallu ennill y dydd ar yr ARGLWYDD.
31
Mae milwyr wedi paratoi meirch ar gyfer y rhyfel, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi'r fuddugoliaeth.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31