bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 25
Proverbs 25
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 26 →
1
Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi eu casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda:
2
Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch; braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod.
3
Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn, does neb yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl brenhinoedd.
4
Ar ôl gwahanu'r amhuredd o'r arian, mae'r gof yn gallu creu llestr hardd.
5
Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel.
6
Paid canmol dy hun o flaen y brenin, a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.
7
Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,” na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.
8
Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llys am dy fod wedi gweld rhywbeth. Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?
9
Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw, a paid dweud am y peth wrth neb arall.
10
Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di, ac i ti gael enw drwg am byth.
11
Mae gair o ganmoliaeth fel gemwaith aur mewn tlws arian.
12
Mae gwrando ar gerydd gan rywun doeth fel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.
13
Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri, fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.
14
Cymylau a gwynt, ond dim glaw — felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi.
15
Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr; ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.
16
Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen, rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny.
17
Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml, rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di.
18
Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llys yn gwneud niwed fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth finiog.
19
Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anodd fel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed.
20
Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.
21
Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed.
22
Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti.
23
Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.
24
Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
25
Mae derbyn newyddion da o wlad bell fel diod o ddŵr oer i wddf sych.
26
Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwg fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi ei ddifetha.
27
Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da, a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn.
28
Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymer fel dinas a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31