bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 20
Proverbs 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
1
Mae gwin yn gwawdio, a cwrw yn creu helynt; dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth.
2
Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo; mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd.
3
Mae gwrthod ffraeo yn beth call i'w wneud, gall unrhyw ffŵl godi helynt.
4
Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd.
5
Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg.
6
Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw, ond pwy allwch chi ei drystio go iawn?
7
Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest, mae ei blant wedi eu bendithio'n fawr.
8
Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnu yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da.
9
Oes unrhyw un yn gallu dweud, “Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân; dw i'n hollol lân a heb bechod”?
10
Mae twyllo wrth bwyso a mesur yn rhywbeth sy'n gas gan yr ARGLWYDD.
11
Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio.
12
Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld — yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy.
13
Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd; cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.
14
Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen.
15
Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd; mae geiriau doeth fel gem werthfawr.
16
Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.
17
Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus, ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.
18
Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo; ewch i ryfel gyda strategaeth glir.
19
Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach; paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod.
20
Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew.
21
Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd, fydd dim bendith yn y diwedd.
22
Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!” Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di.
23
Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD; dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda.
24
Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd; sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen?
25
Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll, a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud.
26
Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da, ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw.
27
Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD, yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon.
28
Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin; a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd.
29
Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc, ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed.
30
Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg, ac yn delio gyda'r person y tu mewn.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31