bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 5
Proverbs 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 6 →
1
Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti; gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud.
2
Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn, ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.
3
Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl, a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew;
4
Ond mae hi'n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod, ac yn finiog fel cleddyf.
5
Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth; mae ei chamau yn arwain i'r bedd.
6
Dydy hi'n gwybod dim am fywyd go iawn; mae hi ar goll — a ddim yn sylweddoli hynny.
7
Felly, fy mab, gwrando'n ofalus arna i, a paid troi cefn ar beth dw i'n ddweud.
8
Cadw draw oddi wrthi hi! Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,
9
rhag i ti golli pob hunan-barch, ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.
10
Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di, ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano.
11
Wedyn byddi'n griddfan yn y diwedd, pan fydd dy gorff wedi ei ddifetha.
12
Byddi'n dweud, “Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint? Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?
13
Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon, a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i?
14
Bu bron i bopeth chwalu'n llwyr i mi, a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”
15
Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun! Ei dŵr ffres hi a neb arall.
16
Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di lifo allan i'r strydoedd?
17
Na, cadw hi i ti dy hun, paid gadael i neb arall ei chael.
18
Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan yn ifanc
19
— dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i'w bronnau roi boddhad i ti, i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
20
Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol? Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
21
Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud. Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd.
22
Bydd yr un sy'n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni! — bydd wedi ei rwymo gan raffau ei bechod ei hun.
23
Bydd yn marw am fod ganddo ddim disgyblaeth, ac wedi meddwi ar chwarae'r ffŵl.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31