bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 15
Proverbs 15
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 16 →
1
Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.
2
Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth, ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb.
3
Mae'r ARGLWYDD yn gweld popeth, mae'n gwylio'r drwg a'r da.
4
Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd, ond mae dweud celwydd yn torri calon.
5
Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad, ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.
6
Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn, ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.
7
Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth; ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.
8
Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg, ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio.
9
Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg, ond mae'n caru'r rhai sy'n trïo byw'n iawn.
10
Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym; bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.
11
Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn, felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl!
12
Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro; dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.
13
Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb; ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.
14
Mae person call eisiau dysgu mwy; ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.
15
Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled, ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.
16
Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDD yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.
17
Mae platiaid o lysiau ble mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.
18
Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt; ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.
19
Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri, ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored.
20
Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam.
21
Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens; ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn.
22
Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.
23
Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus, ac mor dda ydy gair yn ei bryd!
24
Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth, ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod.
25
Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ y balch, ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel.
26
Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg, ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg.
27
Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu; ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw.
28
Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb, tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.
29
Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg, ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.
30
Mae gwên yn llonni'r galon; a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.
31
Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiol yn byw yng nghwmni'r doeth.
32
Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun; ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr.
33
Mae parchu'r ARGLWYDD yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth; a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31