bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 18
Proverbs 18
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
1
Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun, ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.
2
Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall, dim ond lleisio'i farn ei hun.
3
Mae dirmyg yn dilyn y drwg, a gwawdio yn dilyn gwarth.
4
Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn; ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.
5
Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da, na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog.
6
Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae; mae'n gofyn am drwbwl!
7
Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr; mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.
8
Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus — mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
9
Mae'r un sy'n ddiog yn ei waith yn perthyn yn agos i'r fandal.
10
Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet; mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.
11
Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth; mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.
12
Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio; gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.
13
Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.
14
Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd; ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario.
15
Mae'r person call am ddysgu mwy; ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.
16
Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau i gyfarfod pobl bwysig.
17
Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn nes i rywun ddod a'i groesholi.
18
Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo, ac yn setlo dadl ffyrnig.
19
Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer; a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.
20
Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau; mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.
21
Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth; ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.
22
Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus; mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato.
23
Mae'r person tlawd yn pledio am help; ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta.
24
Mae rhai ffrindiau yn gallu brifo rhywun, ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31