bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 17
Proverbs 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 18 →
1
Mae crystyn sych a thipyn o heddwch yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo.
2
Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd, a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu.
3
Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, ond yr ARGLWYDD sy'n profi'r galon.
4
Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg; a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus.
5
Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr; a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi.
6
Coron pobl mewn oed ydy eu wyrion a'u wyresau, a balchder plant ydy eu rhieni.
7
Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth celwydd i ŵr bonheddig.
8
Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig; ble bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo.
9
Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch, ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau.
10
Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doeth na chwipio ffŵl gant o weithiau.
11
Dydy rhywun drwg ond eisiau gwrthryfela; felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn.
12
Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawon na ffŵl yn siarad nonsens.
13
Fydd trafferthion byth yn gadael tŷ rhywun sy'n talu drwg am dda.
14
Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
15
Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD — gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16
Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb. Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
17
Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
18
Does dim sens gan rywun sy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
19
Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion; a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20
Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo; mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21
Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch; does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22
Mae llawenydd yn iechyd i'r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23
Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bach i wyrdroi cyfiawnder.
24
Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth; ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.
25
Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dad a dolur calon i'w fam.
26
Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn; byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.
27
Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin; a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.
28
Gall hyd yn oed ffŵl sy'n cadw'n dawel gael ei ystyried yn ddoeth; a'r un sy'n cau ei geg, yn ddeallus.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31