bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Proverbs 7
Proverbs 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 8 →
1
Fy mab, gwna beth dw i'n ddweud; a thrysori'r hyn dw i'n ei orchymyn.
2
Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da; paid tynnu dy lygad oddi ar beth dw i'n ddysgu.
3
Cadw nhw fel modrwy ar dy fys; ysgrifenna nhw ar lech dy galon.
4
Dywed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,” a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau.
5
Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol; rhag yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg.
6
Roeddwn i'n sefyll yn y tŷ, ac yn edrych allan o'r ffenest.
7
Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddo gyda chriw gwyllt o bobl ifanc.
8
Roedd yn croesi'r stryd at y groesffordd sy'n arwain at ei thŷ hi.
9
Roedd hi'n hwyr yn y dydd, ac yn dechrau nosi a thywyllu.
10
Yn sydyn dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod, wedi ei gwisgo fel putain — roedd ei bwriad hi'n amlwg.
11
(Dynes swnllyd, ddigywilydd, sydd byth yn aros adre.
12
Ar y stryd un funud, ar y sgwâr y funud nesa, yn loetran ar bob cornel.)
13
Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu, ac yn dweud yn bowld:
14
“Tyrd, mae gen i fwyd adre — cig yr offrwm rois i; dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.
15
A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di — roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!
16
Dw i wedi paratoi'r gwely! Mae yna gynfasau glân arno, a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft.
17
Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr — myrr, aloes, a sinamon.
18
Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol; mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos.
19
Dydy'r gŵr ddim adre — mae e wedi mynd ar daith bell.
20
Mae e wedi mynd gyda'i arian, ar fusnes, a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.”
21
Dyma hi'n llwyddo i'w berswadio; roedd wedi ei ddenu gyda'i fflyrtian.
22
Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith, fel ych yn mynd i'r lladd-dy, neu garw yn neidio i drap
23
cyn i saeth ei drywanu! Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd, heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd.
24
Nawr gwrandwch arna i, fechgyn; gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:
25
Peidiwch hyd yn oed meddwl amdani; peidiwch mynd yn agos ati.
26
Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio; mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde!
27
Mae ei thŷ hi yn draffordd i'r bedd, a'i ystafell wely yn siambr marwolaeth!
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31