bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Psalms 119
Psalms 119
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 118
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 120 →
1
Mae'r rhai sy'n byw yn iawn, a gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi eu bendithio'n fawr!
2
Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi eu bendithio'n fawr!
3
Dŷn nhw'n gwneud dim drwg, ond ymddwyn fel mae e eisiau.
4
Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw'n ofalus.
5
O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di'n dweud! —
6
Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di.
7
Dw i'n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.
8
Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i'n llwyr!
9
Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? — drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.
10
Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
11
Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon; er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
12
Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi.
13
Dw i'n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi eu rhoi.
14
Mae byw fel rwyt ti'n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.
15
Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.
16
Mae dy ddeddfau di yn rhoi'r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.
17
Helpa dy was! Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
18
Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.
19
Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
20
Dw i'n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di.
21
Rwyt ti'n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.
22
Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd? Dw i'n cadw dy reolau di.
23
Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau.
24
Mae dy ofynion di yn hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.
25
Dw i'n methu codi o'r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo!
26
Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi.
27
Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
28
Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
29
Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
30
Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti; a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
31
Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!
32
Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr.
33
O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di'n dweud; a'i dilyn i'r diwedd.
34
Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
35
Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau ei wneud.
36
Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
37
Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
38
Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
39
Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
40
Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn; Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
41
Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD. Achub fi, fel rwyt wedi addo.
42
Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio, gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ddweud.
43
Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir, dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
44
Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth di am byth bythoedd!
45
Gad i mi gerdded yn rhydd am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
46
Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion. Fydd gen i ddim cywilydd.
47
Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi, dw i wir yn eu caru nhw!
48
Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion, ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.
49
Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was — dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi.
50
Yr hyn sy'n gysur i mi pan dw i'n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi.
51
Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i'n greulon, ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di.
52
Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD, ac mae hynny'n rhoi cysur i mi.
53
Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny sy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di.
54
Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cân ble bynnag dw i wedi byw!
55
Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu.
56
Dyna dw i wedi ei wneud bob amser — ufuddhau i dy ofynion di.
57
Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.
58
Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon: Dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.
59
Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.
60
Heb unrhyw oedi, dw i'n brysio i wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn.
61
Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.
62
Ganol nos dw i'n codi i ddiolch am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
63
Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn.
64
Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi'r ddaear! Dysga dy ddeddfau i mi.
65
Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD.
66
Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn; dw i'n trystio dy orchmynion di.
67
Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef, ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
68
Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda: dysga dy ddeddfau i mi.
69
Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i, ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
70
Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw, ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.
71
Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
72
Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur.
73
Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i; helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.
74
Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi, am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi.
75
O ARGLWYDD, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n benderfynu yn iawn; roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.
76
Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi, fel gwnest ti addo i dy was.
77
Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mi felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.
78
Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam! Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.
79
Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolau fy nerbyn i yn ôl.
80
Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau fel bydd dim cywilydd arna i.
81
Dw i'n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
82
Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo: “Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.
83
Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg! Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.
84
Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl? Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?
85
Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di; maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.
86
Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di; mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!
87
Maen nhw bron â'm lladd i, ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
88
Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw, a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.
89
Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD; maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.
90
Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau! Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.
91
Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di, mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.
92
Byddwn i wedi marw o iselder oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.
93
Wna i byth anghofio dy reolau di, rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi trwyddyn nhw.
94
Ti sydd piau fi. Achub fi! Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.
95
Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio, ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.
96
Mae yna ben draw i bopeth arall, ond mae dy orchmynion di yn ddiderfyn!
97
O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.
98
Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;
99
Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd, am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.
100
Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed, am fy mod i'n cadw dy ofynion di.
101
Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg er mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
102
Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di, am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
103
Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda, maen nhw'n felys fel mêl.
104
Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi; ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.
105
Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed, ac yn goleuo fy llwybr.
106
Dw i wedi addo ar lw y bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
107
Dw i'n dioddef yn ofnadwy; O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
108
O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl, a dysga dy ddeddfau i mi.
109
Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg, dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
110
Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi, ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.
111
Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth; maen nhw'n bleser pur i mi!
112
Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae'r wobr yn para am byth.
113
Dw i'n casáu pobl ddauwynebog; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
114
Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
115
Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
116
Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw; paid gadael i mi gael fy siomi.
117
Cynnal fi a chadw fi'n saff, a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
118
Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau — pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
119
Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach! Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
120
Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i; mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i.
121
Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda; paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.
122
Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff. Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
123
Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i, ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
124
Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was; dysga dy ddeddfau i mi.
125
Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall a gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
126
Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD! Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.
127
Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di; mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
128
Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl; dw i'n casáu pob ffordd ffals.
129
Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol, a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.
130
Mae dy eiriau di yn goleuo materion, ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.
131
Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn geg agored ac yn ysu am dy orchmynion di.
132
Tro ata i, a bydd yn garedig ata i; dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di.
133
Dangos di'r ffordd ymlaen i mi; paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!
134
Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu, er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud.
135
Bydd yn garedig at dy was, a dysga dy ddeddfau i mi.
136
Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen i am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.
137
Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD; ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
138
Mae'r deddfau rwyt ti wedi eu rhoi yn gyfiawn; ac yn gwbl ddibynadwy.
139
Dw i'n gwylltio'n lân wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.
140
Mae dy eiriau di wedi eu profi'n wir, ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
141
Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu, dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
142
Mae dy gyfiawnder di yn para am byth; Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
143
Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di yn hyfrydwch pur i mi.
144
Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.
145
Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
146
Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.”
147
Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
148
Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau.
149
Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
150
Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
151
Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
152
Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth.
153
Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi! dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
154
Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
155
Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
156
Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
157
Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
158
Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
159
Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
160
Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
161
Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.
162
Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
163
Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
164
Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
165
Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.
166
Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i'n cadw dy orchmynion di;
167
dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw'n fawr.
168
Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.
169
Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.
170
Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo.
171
Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
172
Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
173
Estyn dy law i'm helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.
174
Dw i'n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; Mae dy ddysgeidiaeth di yn hyfrydwch pur i mi.
175
Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i.
176
Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
← Chapter 118
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 120 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150