bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Psalms 89
Psalms 89
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 88
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 90 →
1
Mascîl gan Ethan yr Esrachiad. [1] Dw i'n mynd i ganu am byth am gariad yr ARGLWYDD; dweud am dy ffyddlondeb wrth un genhedlaeth ar ôl y llall.
2
Cyhoeddi fod dy haelioni yn ddiddiwedd; dy ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
3
Dwedaist, “Dw i wedi gwneud ymrwymiad i'r un dw i wedi ei ddewis, ac wedi tyngu llw wrth Dafydd fy ngwas:
4
‘Bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion yn sefydlog am byth ac yn cynnal dy orsedd ar hyd y cenedlaethau.’” Saib
5
Mae'r pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud yn cael eu canmol yn y nefoedd, O ARGLWYDD, a dy ffyddlondeb hefyd gan yr angylion sanctaidd!
6
Pwy sy'n debyg i'r ARGLWYDD yn y cymylau uchod? Pa un o'r bodau nefol sy'n debyg i'r ARGLWYDD?
7
Duw ydy'r un sy'n codi braw ar yr angylion sanctaidd; mae e mor syfrdanol i'r rhai sydd o'i gwmpas.
8
O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus, Oes rhywun mor gryf â ti, ARGLWYDD? Mae ffyddlondeb yn dy amgylchynu!
9
Ti sy'n rheoli'r môr mawr: pan mae ei donnau'n codi, rwyt ti'n eu tawelu.
10
Ti sathrodd yr anghenfil Rahab; roedd fel corff marw! Ti chwalodd dy elynion gyda dy fraich gref.
11
Ti sydd piau'r nefoedd, a'r ddaear hefyd; ti wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo.
12
Ti greodd y gogledd a'r de; mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti.
13
Mae dy fraich di mor bwerus, ac mae dy law di mor gref. Mae dy law dde wedi ei chodi'n fuddugoliaethus.
14
Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd. Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di.
15
Mae'r rhai sy'n dy addoli di'n frwd wedi eu bendithio'n fawr! O ARGLWYDD, nhw sy'n profi dy ffafr di.
16
Maen nhw'n llawenhau ynot ti drwy'r dydd; ac yn cael eu cynnal gan dy gyfiawnder.
17
Ti sy'n rhoi nerth ac ysblander iddyn nhw. Dy ffafr di sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni!
18
Ti, ARGLWYDD, ydy'n tarian. Ti ydy'n brenin ni, Un Sanctaidd Israel.
19
Un tro, dyma ti'n siarad gyda dy ddilynwyr ffyddlon mewn gweledigaeth. “Dw i wedi rhoi nerth i ryfelwr,” meddet ti; “dw i wedi codi bachgen ifanc o blith y bobl.
20
Dw i wedi dod o hyd i Dafydd, fy ngwas; a'i eneinio'n frenin gyda'r olew sanctaidd.
21
Bydda i yn ei gynnal e, ac yn rhoi nerth iddo.
22
Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged, a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng.
23
Bydda i'n sathru ei elynion o'i flaen; ac yn taro i lawr y rhai sy'n ei gasáu.
24
Bydd e'n cael profi fy ffyddlondeb a'm cariad; a bydda i'n ei anfon i ennill buddugoliaeth.
25
Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr, a'i law dde ar afonydd Ewffrates.
26
Bydd e'n dweud wrtho i, ‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’
27
Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi, yn uwch na holl frenhinoedd y byd.
28
Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth; mae fy ymrwymiad iddo yn hollol ddiogel.
29
Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth, a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd.
30
Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaeth ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;
31
os byddan nhw'n torri fy rheolau i, a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,
32
bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel; gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.
33
Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e, a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.
34
Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i; bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.
35
Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw, na fydda i byth yn twyllo Dafydd.
36
Bydd ei linach yn aros am byth, a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.
37
Mae wedi ei sefydlu am byth, fel mae'r lleuad yn dyst ffyddlon i mi yn yr awyr.” Saib
38
Ond rwyt wedi ei wrthod, a'i wthio i'r naill ochr! Rwyt wedi gwylltio gyda'r brenin, dy eneiniog.
39
Rwyt wedi dileu'r ymrwymiad i dy was; ac wedi llusgo ei goron drwy'r baw.
40
Rwyt wedi bwrw ei waliau i lawr, a gwneud ei gaerau yn adfeilion.
41
Mae pawb sy'n pasio heibio yn dwyn oddi arno. Mae e'n destun sbort i'w gymdogion!
42
Ti wedi gadael i'r rhai sy'n ei gasáu ei goncro, a rhoi achos i'w elynion i gyd ddathlu.
43
Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun, a heb ei helpu yn y frwydr.
44
Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben, ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.
45
Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd; ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib
46
Am faint mwy, O ARGLWYDD? Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth? Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?
47
Cofia mor fyr ydy fy mywyd! Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd?
48
Does neb byw yn gallu osgoi marw. Pwy sy'n gallu achub ei hun o afael y bedd? Saib
49
O ARGLWYDD, ble mae'r cariad hwnnw wnest ti ei addo'n bendant i Dafydd?
50
Cofia, ARGLWYDD, sut mae dy weision wedi eu cam-drin; a'r baich dw i wedi ei gario wrth i baganiaid wneud hwyl ar ein pennau.
51
Cofia sut mae dy elynion wedi'n cam-drin ni, O ARGLWYDD, ac wedi cam-drin dy eneiniog ble bynnag mae'n mynd.
52
Bendith ar yr ARGLWYDD am byth! Amen ac Amen.
← Chapter 88
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 90 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Recommended Reading
Commentary
Psalms Commentaries
→
Devotional
Psalms Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→