bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Psalms 68
Psalms 68
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 67
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 69 →
1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân. [1] Pan mae Duw yn codi, mae'r gelynion yn cael eu gwasgaru; mae'r rhai sydd yn ei erbyn yn dianc oddi wrtho.
2
Chwytha nhw i ffwrdd, fel mwg yn cael ei chwythu gan y gwynt! Bydd pobl ddrwg yn cael eu difa gan Dduw, fel cwyr yn cael ei doddi gan dân.
3
Ond bydd y rhai cyfiawn yn dathlu, ac yn gorfoleddu o flaen Duw; byddan nhw wrth eu boddau!
4
Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo, a chanmol yr un sy'n marchogaeth y cymylau! Yr ARGLWYDD ydy ei enw! Dewch i ddathlu o'i flaen!
5
Tad plant amddifad, yr un sy'n amddiffyn gweddwon, ie, Duw yn ei gysegr.
6
Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu, ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth. Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch.
7
O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan, ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib
8
dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glaw o flaen Duw, yr un oedd ar Sinai, o flaen Duw, sef Duw Israel.
9
Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo.
10
Dyna ble mae dy bobl yn byw. Buost yn dda, a rhoi yn hael i'r anghenus, O Dduw.
11
Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da:
12
Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys, a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail.
13
“Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau, dyma i ti adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian a blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.”
14
Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd, roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon!
15
O fynydd anferth, mynydd Bashan; O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan;
16
O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennus o'r mynydd mae Duw wedi ei ddewis i fyw arno? Dyna ble bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth!
17
Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau, a miloedd ar filoedd o filwyr. Mae'r ARGLWYDD gyda nhw; mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr!
18
Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir, ac arwain caethion ar dy ôl, a derbyn rhoddion gan bobl — hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebu i ti aros yno, ARGLWYDD Dduw.
19
Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig! Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd. Duw ydy'n hachubwr ni! Saib
20
Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub! Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth.
21
Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion — pob copa walltog sy'n euog o'i flaen.
22
Dwedodd yr ARGLWYDD, “Bydda i'n dod a'r gelynion yn ôl o Bashan, ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr!
23
Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed, a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.”
24
Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw, yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin, yn mynd i'r cysegr.
25
Y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwr yng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn.
26
“Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.”
27
Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain; penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd; penaethiaid Sabulon a Nafftali.
28
Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf! O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym
29
wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem. Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti!
30
Cerydda fwystfil y corsydd brwyn, y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi! Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd. Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl!
31
Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft, a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw.
32
Canwch i Dduw, chi wledydd y byd! Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib
33
I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr — yr awyr sydd yno o'r dechrau. Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu.
34
Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw! Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel, ac yn dangos ei rym yn yr awyr.
35
O Dduw, rwyt ti'n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr! Ie, Duw Israel sy'n rhoi grym a nerth i'w bobl. Boed i Dduw gael ei anrhydeddu!
← Chapter 67
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 67
Chapter 68
Chapter 69
Chapter 70
Chapter 71
Chapter 72
Chapter 73
Chapter 74
Chapter 75
Chapter 76
Chapter 77
Chapter 78
Chapter 79
Chapter 80
Chapter 81
Chapter 82
Chapter 83
Chapter 84
Chapter 85
Chapter 86
Chapter 87
Chapter 88
Chapter 89
Chapter 90
Chapter 91
Chapter 92
Chapter 93
Chapter 94
Chapter 95
Chapter 96
Chapter 97
Chapter 98
Chapter 99
Chapter 100
Chapter 101
Chapter 102
Chapter 103
Chapter 104
Chapter 105
Chapter 106
Chapter 107
Chapter 108
Chapter 109
Chapter 110
Chapter 111
Chapter 112
Chapter 113
Chapter 114
Chapter 115
Chapter 116
Chapter 117
Chapter 118
Chapter 119
Chapter 120
Chapter 121
Chapter 122
Chapter 123
Chapter 124
Chapter 125
Chapter 126
Chapter 127
Chapter 128
Chapter 129
Chapter 130
Chapter 131
Chapter 132
Chapter 133
Chapter 134
Chapter 135
Chapter 136
Chapter 137
Chapter 138
Chapter 139
Chapter 140
Chapter 141
Chapter 142
Chapter 143
Chapter 144
Chapter 145
Chapter 146
Chapter 147
Chapter 148
Chapter 149
Chapter 150
Chapter 69 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Recommended Reading
Commentary
Psalms Commentaries
→
Devotional
Psalms Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→