bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 1
Joshua 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,
2
Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a'r holl bobl hyn, i'r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.
3
Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.
4
O'r anialwch, a'r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.
5
Ni saif neb o'th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni'th adawaf, ac ni'th wrthodaf.
6
Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i'r bobl hyn etifeddu'r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.
7
Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.
8
Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
9
Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.
10
Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,
11
Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i'r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu'r wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi i chwi i'w meddiannu.
12
Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddywedyd,
13
Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD eich DUW a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.
14
Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o'r tu yma i'r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;
15
Nes rhoddi o'r ARGLWYDD lonyddwch i'ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad yr haul.
16
Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.
17
Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi, megis y bu gyda Moses.
18
Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24