bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 2
Joshua 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
1
A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a'i henw Rahab, ac a letyasant yno.
2
A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio'r wlad.
3
A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i'th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
4
Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a'u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.
5
A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a'u goddiweddwch hwynt.
6
Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a'u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
7
A'r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua'r Iorddonen, hyd y rhydau: a'r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.
8
A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:
9
A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o'r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.
10
Canys ni a glywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y môr coch o'ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o'r Aifft; a'r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11
A phan glywsom, yna y'n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr ARGLWYDD eich DUW, efe sydd DDUW yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
12
Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr ARGLWYDD, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:
13
Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a'm mam, a'm brodyr, a'm chwiorydd, a'r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.
14
A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr ARGLWYDD i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
15
Yna hi a'u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy'r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.
16
A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r mynydd, rhag i'r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i'ch ffordd.
17
A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â'r hwn y'n tyngaist.
18
Wele, pan ddelom ni i'r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a'th fam, a'th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i'r tŷ yma.
19
A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i'r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.
20
Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â'r hwn y'n tyngaist.
21
A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a'u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.
22
A hwy a aethant, ac a ddaethant i'r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i'r erlidwyr ddychwelyd. A'r erlidwyr a'u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
23
Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o'r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:
24
A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr ARGLWYDD a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24