bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 14
Joshua 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
1
Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i'w hetifeddu.
2
Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses eu rhoddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.
3
Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen; ond i'r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;
4
Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i'r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a'u meysydd pentrefol i'w hanifeiliaid, ac i'w golud.
5
Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.
6
Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr DUW o'm plegid i, ac o'th blegid dithau, yn Cades‐Barnea.
7
Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades‐Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.
8
Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr ARGLWYDD fy NUW.
9
A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i'th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr ARGLWYDD fy NUW.
10
Ac yn awr, wele yr ARGLWYDD a'm cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr ARGLWYDD y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain.
11
Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â'r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.
12
Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr ARGLWYDD fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD.
13
A Josua a'i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth.
14
Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl ARGLWYDD DDUW Israel.
15
Ac enw Hebron o'r blaen oedd Caer‐Arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A'r wlad a orffwysodd heb ryfel.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24